Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal sesiwn ymgysylltu â’r cyhoedd rhwng 2-8yp yng Nghaffi Cletwr ar 14 Mai. Nod y sesiwn yw ymgysylltu ag aelodau o’r gymuned leol ynghylch prosiect mynediad. Mae’r ardal sydd o dan ystyriaeth yn Nhaliesin ac o fewn i’r ardal o dir comin sy’n ffinio â Llwybr Arfordir Cymru. Rydym yn gobeithio gallu casglu digon o dystiolaeth a barn er mwyn ein helpu i lunio’r prosiect, gan hefyd ystyried y ffordd orau o’i gynllunio er mwyn diwallu anghenion y gymuned.
Mae Cyngor Cymuned Llangynfelyn wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Ceredigion dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn cynllunio’r prosiect hwn gan ei fod yn cynnwys Tir Comin y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdano.
Mae gwaith clirio sylfaenol eisoes wedi digwydd ar y terfynau.
Byddai’n wych petasech chi’n gallu galw heibio a lleisio’ch barn. Rydym yn credu y bydd creu man gwyrdd ‘hygyrch i bawb’ o fudd i’r holl gymuned ac eraill sy’n ymweld â’r ardal
